|
Trystan Lewis, B.A., M.Mus.
Arweinydd/Conductor

Mae Trystan
yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd corawl a cherddorfaol a
chymanfaoedd canu ac fel organydd a beirniad. Arweiniodd Gôr Aelwyd
Pantycelyn am ddwy flynedd gan ennill dwy flynedd ar y tro gyda Chôr
Cymysg a Meibion yr Aelwyd hwnnw. Penodwyd ef yn arweinydd Côr Maelgwn
naw mlynedd yn ôl ac o dan ei faton, maent wedi ennill Cystadleuaeth y
Sealink, Y Genedlaethol ddwywaith (2005 a 2009) a buont yn rownd
derfynol Cystadleuaeth y BBC. Bu’n organydd yn y Tabernacl, Aberystwyth
tra’n fyfyriwr ac mae’n organydd ym Mheniel Deganwy ers ugain mlynedd ac
yn canu’r organ yn achlysurol yn St John’s Llandudno Bethel, Deganwy.
Mae wedi
arwain bron i ddau gant o Gymanfaoedd Canu gan gynnwys Canada a Chymanfa
Gogledd America yn ogystal â nifer o rai ar y teledu a’r radio. Mae galw
arno fel unawdydd bâs-bariton, bu’n canu gyda Chymdeithas Gorawl
Llanelli y llynedd ac eto eleni a bu’n canu fel unawdydd gwadd gyda
nifer o gorau meibion ac yn unawdydd cyson yng nghyngherddau St John’s
Llandudno. Ef enillodd yr unawd Hen Ganiadau yn y Bala 2009. Mae’n
feirniad cenedlaethol ac wedi beirniadu mewn bron i ddau gant o
eisteddfodau. Enillodd ei radd gyntaf B.A. yn Aberystwyth ac enillodd
radd M.Mus. o Brifysgol Lerpwl mewn Astudiaeth Llais a Harmoni a
Gwrthbwynt.
Sefydlodd
Gôr Cymysg Dyffryn Conwy ym 2005 i berfformio cyfanweithiau gyda
cherddorfa a phenodwyd ef eleni yn arweinydd Cymdeithas Gorawl y
Wyddgrug.
Mae’n Diwtor
Llais yng Nghanolfan William Mathias, Caernarfon ac ym Mhrifysgol Bangor
yn ogystal â chadw Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno, sef siop lyfrau
ail-law a newydd yn ogystal â siop goffi.
|